Barn y Beirniaid
Dyma ddetholiad o'r hyn a ddywedwyd am y bardd a'i waith mewn amrywiol feirniadaethau eisteddfodol ac adolygiadau. Wrth gwrs, doedd gan y beirniaid eisteddfodol ddim syniad ar y pryd at bwy yr oedden nhw'n cyfeirio! Y mae angen cymryd eu sylwadau felly gyda phinsiad go lew o halen.
“Bardd gwirioneddol ddawnus”
Dr Bleddyn Owen Huws
“Dyma fardd gwreiddiol a soffistigedig ei feddwl”
Yr Athro Peredur Lynch
“Mae’n fardd hynod o ddawnus”
Y Prifardd Alan Llwyd
“Bardd bro'r oes ddigidol”
Catrin Beard
“Bardd gwych”
Y Prifardd Gerallt Lloyd Owen
“Bardd crafog ei ddull, treiddgar ei sylwebaeth”
Dr Jason Walford Davies
"Mae gonestrwydd, gwefr a brwdfrydedd Llion Jones yn dod o'r galon."
Elliw Iwan
"Bardd hyderus a chrefftus tu hwnt sydd â rhywbeth gwerth chweil i’w ddweud"
Y Prifardd Dafydd John Pritchard
“Bardd ymenyddol siarp, treiddgar ei sylwadaeth, crafog iawn ei ddull”
Yr Athro Derec Llwyd Morgan