Pwy ydy Llion Jones?
Bardd, beirniad a brodor o Abergele sy'n byw bellach ym Mhenrhosgarnedd ydy Llion Jones. Prifardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a'r Cylch 2000, trydarwr cynganeddol, un o golofnwyr rheolaidd Barddas a sylfaenydd a golygydd gwefan farddoniaeth Yr Annedd.
Cyhoeddodd dri chasgliad o gerddi, sef Pethe Achlysurol (Barddas, 2007), Trydar mewn Trawiadau (Barddas, 2012) a Bardd ar y Bêl (Barddas, 2016). Cyrhaeddodd Trydar mewn Trawiadau restr fer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013 a chipio gwobr 'Barn y Bobl'.
Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd llwyddiannus Caernarfon ac wrth ei waith bob dydd yn Gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ei orffennol pell, bu'n aelod o'r grŵp Eryr Wen, ac ymhlith ei bechodau niferus, y mae'r gân anenwog honno, 'Gloria Tyrd Adre'.