Bardd Preswyl Radio Cymru Mehefin 2014
Ar awr wan, mae Llion Jones wedi cytuno i ymgymryd â rôl newydd fel bardd preswyl BBC Radio Cymru ar gyfer mis Mehefin 2014.
Mae’r cynllun o benodi beirdd preswyl yn ddatblygiad newydd i Radio Cymru a’r bwriad ydy rhoi cyfle i wrandawyr ddod i adnabod y beirdd a’r orsaf, yn well. Mae’r bardd preswyl yn ymrwymo i gynhyrchu nifer o gerddi yn ystod y mis, gan ymateb i sgyrsiau, straeon, caneuon neu raglenni cyfan ar yr orsaf. Mae’r cerddi wedyn i’w clywed ar raglenni Radio Cymru.
Mewn cwpled i gofnodi'r datblygiad, dywedodd Llion:
Mae'n her a hanner, Gymry annwyl,
i mi oroesi fel bardd preswyl.