Bardd ar y Bêl
Yn y siopau erbyn hyn, y mae cyfrol ddiweddaraf Llion Jones, 'Bardd ar y Bêl'. O Andorra i Lyon, mae'r gyfrol yn dilyn taith gofiadwy tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 trwy gwpledi, englynion a chywyddau.
Gyda lluniau lliw gan ffotograffydd swyddogol Cymdeithas Pel-droed Cymru, David Rawcliffe, mae'r llyfr, a ddyluniwyd gan Elgan Griffiths, yn wledd weledol ac yn gofnod perffaith o haf bythgofiadwy 2016.
Meddai Osian Roberts, hyfforddwr y tîm cenedlaethol, yn ei ragair i'r llyfr: "Mae’r gyfrol hon yn rhoi cyfnod rhyfeddol yn hanes pêl-droed Cymru ar gof a chadw, a hynny ar odl a chynghanedd. Rwy’n gwybod y cewch fodd i fyw yn aildroedio’r lôn i Lyon."
Cafodd y llyfr ei lansio yn Stiwdio Pontio, Bangor nos Lun 21 Tachwedd 2016 yng nghwmni Nic Parry, Geraint Løvgreen, Ifor ap Glyn, Emlyn Gomer ac Ifan Prys.
Os nad ydych o fewn cyrraedd hwylus i siop lyfrau Cymraeg, gallwch brynu'r llyfr o siop y wefan hon.
Pris: £6.95