28 Rhag2015
Y Daith i Ewro 2016 :: Allez Cymru!
Dros gyfnod y Nadolig ar S4C, bydd trydargerddi Llion Jones yn cael eu defnyddio ar raglen ddogfen arbennig gan Rondo Media sy'n croniclo ymgyrch hanesyddol tîm pêl-droed Cymru i gystadleuaeth Ewro 2016 yn Ffrainc yr haf nesaf.
Mae’r rhaglen, sy'n cael ei darlledu am y tro cyntaf nos Lun, 28 Rhagfyr, yn dangos y cynnwrf o'r gemau rhagbrofol yn ogystal â chyfweliadau gyda’r hyfforddwyr, a’r chwaraewyr, gan gynnwys y rheolwr Chris Coleman, yr is-reolwr Osian Roberts a’r capten Ashley Williams.
Yn gyfeiliant i'r cyfan bydd y trydargerddi a gyfansoddodd Llion Jones wrth i'r ymgyrch gofiadwy fynd rhagddi.