Llyfryddiaeth

Dyma restr o gyhoeddiadau diweddar sy'n cynnwys gwaith Llion Jones.

Bardd ar y Bêl 

Bardd ar y Bêl
Cyhoeddiadau Barddas 2016
£6.95

Casgliad o drydargerddi yn dilyn ymgyrch ryfeddol tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016. 

 
 

Awen Iwan, (gol. Twm Morys)
Cyhoeddiadau Barddas 2014
£9.95

Ysgrif ar waith Iwan Llwyd :: 'O Dir Neb i’r Tir Cyffredin'. (Cyhoeddwyd fersiwn gynharach o'r ysgrif yn 'Y Patrwm Amrywliw 2', gol. Robert Rhys, Cyhoeddiadau Barddas 2006). 

  

Trydar mewn Trawiadau
Cyhoeddiadau Barddas 2012
£4.95

Detholiad o drydar cynganeddol y bardd rhwng 2009-2012. Enillydd Gwobr Barn y Bobl yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013 

 
 

Pethe Achlysurol
Cyhoeddiadau Barddas 2007
£6

Casgliad cyntaf o gerddi, yn cynnwys cerddi buddugol cystadleuaeth y Gadair 2000. 

 
  

Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes, (gol. Tony Bianchi)
Cyhoeddiadau Barddas 2005
£15.95

Detholiad o'r dilyniant 'Rhithiau' yn cynnwys ‘Ar Drothwy’, ‘Brodio’, ‘Newyddion ar y 9’, ‘Diwylliant Gwe-rin’, 'E-pistol @’ 

 
  

Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (goln. Menna Elfyn, John Rowlands)
Bloodaxe Books 2003
£10.95

Cyfieithiadau Saesneg gan Geraint Lövgreen o bedair cerdd, sef ‘As I Survey', 'On the Threshold', 'Bricolage', 'Party Political Bored-cast'.