Cerddi ar hap

Bydd cerddi amrywiol yn ymddangos ar hap ar y dudalen hon.

Nos da Nostalgia

Dyma eiriau cân a luniwyd fel her i'r cerddorion sy'n gwrando ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru ym mis Mehefin 2014. Gramcon oedd yr unig un a ymatebodd i'r her, ond erbyn hyn y mae Cadi Gwen hefyd wedi taflu ei het i'r cylch! 

Dwi ‘di crwydro hyd strydoedd Aberstalwm
Dros gerrig yr afon, trwy gae yn llawn o ŷd,
Dwi ‘di dringo at y tŷ sydd ar y mynydd
Dydy o’n ddim ond adfail mud.

Dwi ‘di sefyll ar blatfform Stesion Strata,
Hawlio tocyn ar y trên i Afon-wen,
Dwi ‘di teithio yng nghwmni y sgwarnogod
Ond y cledrau ddaeth i ben.

Nos da nostalgia a’r breuddwyd roc a rôl,
da bo’ i Westy Cymru, ddaw Gloria ddim yn ôl.

Dwi ‘di chwilio am Ethiopia Newydd,
Ymlaen mae Canaan, dyna oedd fy nghri,
Ond o noddfa rhyw harbwr diogel
Methu symud ‘mlaen wnes i.

Nos da nostalgia a’r breuddwyd roc a rôl,
da bo’ i Westy Cymru, ddaw Gloria ddim yn ôl.
Nos da nostalgia, adiós i’r Mardi Gras,
mae’r fflachlwch wedi’i luchio felly hwyl fawr heulwen ha’.
Wedi rhedeg draw i Baris
Wedi troedio Rue St Michel
Wedi cyrchu Monte Carlo
Daeth yn amser dweud ffarwél.
Nos da nostalgia a’r breuddwyd roc a rôl,
da bo’ i Westy Cymru, ddaw Gloria ddim yn ôl.
Nos da nostalgia, adiós i’r Mardi Gras,
mae’r fflachlwch wedi’i luchio felly hwyl fawr heulwen ha’.