26 : 02 : 2008
Mewn adolygiad newydd ar wefan Gwales, y mae Dafydd John Pritchard yn digrifio Llion Jones fel "bardd hyderus a chrefftus tu hwnt sydd â rhywbeth gwerth chweil i’w ddweud".
08 : 11 : 2007
'Bardd rhwng un peth a'r llall'. Dyna ddigrifiad Golwg o Llion Jones mewn erthygl yn y cylchgrawn heddiw.
07 : 11 : 2007
Bydd eitem arbennig ynghylch 'Pethe Achlysurol' yn cael ei darlledu ar Y Sioe Gelf heno (nos Fercher 7 Tachwedd) gydag ail-ddarllediad nos Fawrth 13 Tachwedd. Gellir gweld y rhaglen yn ei chyfanrwydd yma.
30 : 10 : 2007
Bydd eitem fer ar y gyfrol 'Pethe Achlysurol' yn cael ei darlledu ar y rhaglen 'Wedi 7' heno (nos Fawrth 30 Hydref).
07 : 10 : 2007
Bydd 'Pethe Achlysurol' yn cael ei lansio, (neu ei bwrw i'r byd chwedl Dafydd Islwyn), mewn noson arbennig yn y Galeri, Caernarfon nos Fercher 31 Hydref am 7.30 yh. Llywydd y cyfarfod fydd Y Prifardd Tudur Dylan Jones a bydd cyfle yn ystod y noson i weld dehongliad fideo o'r dilyniant 'Rhithiau' a ddangoswyd yn wreiddiol ar 'Y Sioe Gelf'.
01 : 10 : 2007
Mae Cyhoeddiadau Barddas wedi cadarnhau y bydd cyfrol gyntaf Llion Jones yn y siopau ddydd Llun 29 Hydref. Bydd y gyfrol hefyd ar gael yn uniongyrchol o'r wefan hon ar yr un diwrnod.
|