"ar amserlen amgenach"
Barn y Beirniaid
Dyma ddetholiad o'r hyn a ddywedwyd am y bardd a'i waith mewn amrywiol feirniadaethau eisteddfodol. Wrth gwrs, doedd gan y beirniaid ddim syniad ar y pryd at bwy yr oedden nhw'n cyfeirio! Y mae angen cymryd eu sylwadau felly gyda phinsiad go lew o halen.

“Bardd gwirioneddol ddawnus”
Dr Bleddyn Owen Huws

“Dyma fardd gwreiddiol a soffistigedig ei feddwl”
Yr Athro Peredur Lynch

“Mae’n fardd hynod o ddawnus”
Y Prifardd Alan Llwyd

“Bardd gwych”
Y Prifardd Gerallt Lloyd Owen

“Bardd crafog ei ddull, treiddgar ei sylwebaeth”
Dr Jason Walford Davies

“Bardd ymenyddol siarp, treiddgar ei sylwadaeth, crafog iawn ei ddull”
Yr Athro Derec Llwyd Morgan